2013 Rhif 1658 (Cy. 156)

IECHYD planHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n dod i rym ar … 2013, yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1701) (“Gorchymyn 2006”).

Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yw’r rhan gyntaf o symudiad tuag at adennill costau llawn y ffioedd dros gyfnod o dair blynedd. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd a bennwyd yng Ngorchymyn 2006 fel a ganlyn:

(1) ffioedd am wasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau yn ôl ystod rhwng 15% a 130% (erthygl 2(3)), a

(2) ffioedd am wasanaethau cyn-allforio yn ôl 85% (erthygl 2(4)).

Ceir rhagor o fanylion yn y Memorandwm Esboniadol sydd i’w weld ar wefan Cynullid Cenedlaethol Cymru (www.cynulliadcymru.org).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effeithiau’r Gorchymyn hwn ar gostau busnesau, o ran y mathau o ffioedd sydd o dan sylw, wedi ei baratoi ynglŷn â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2013 Rhif 1658 (Cy. 156)

IECHYD planHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed                             3 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       5 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym                    31 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru dwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn â chydsyniad y Trysorlys.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar … 2013.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

2.(1)(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn nhestun Cymraeg erthygl 3(3), yn lle “gronynnau” rhodder “grawn”.

(3) Yn lle Atodlen 3 rhodder—

ATODLEN 3                    Erthyglau 3 a 5

Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau

Ffi (£)

Ffi

(allforiwr bach) (£)

(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw grawn:

arolygiad a, phan fo angen, archwiliad mewn labordy

46.61 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 93.22

 

23.31 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 46.62

 

archwiliad mewn labordy yn unig

26.43

 

13.22

dyroddi tystysgrif pan nad yw arolygiad neu archwiliad mewn labordy yn ofynnol

8.21

 

 

4.11

(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o rawn:

monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3), a phan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig

51.47

 

25.73

 

(4) Yn lle Atodlen 4 rhodder—

 

              ATODLEN 4              Erthygl 5

Gwasanaeth

Ffi (£)

Ffi (allforiwr bach) (£)

Gwasanaeth cyn-allforio

37.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 74.92

18.73 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 37.46

 

 

Alun Davies

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

3 Gorffennaf 2013

 



([1])           1967 p. 8; gweler adran 1(2) i gael y diffiniad o “the competent authorities”. Diwygiwyd adran 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), mewnosodwyd adran 4A gan Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49), adran 3.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd

Planhigion 1967 (p. 8), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae’r gofynion ynglŷn â chymeradwyaeth y Trysorlys o dan adran 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn dal yn effeithiol.

 

([3])           O.S. 2006/1701 (Cy. 163).